Agorwyd ein gardd Weddi ar fore Dydd Iau, Gorffennaf 20fed, 2017.
Agorwyd yr Ardd gan y Parch Alun Evans. Roedd y disgyblion wedi cael cyfle i wneud cynlluniau ar gyfer yr Ardd a bu'r ysgol yn cyd-weithio'n agos gyda'r Eglwys i roi'r cynlluniau ar waith.
Rhaid diolch i Eglwys St Twrog am noddi cost y gwaith a diolch i rai o'r aelodau am eu gwaith ymarfefol yn paratoi'r ardd.